Chwefror 11 1924, ar fwrdd yr RMS Cedric: Noticed Statue of Liberty glowing within the daylight. Bitterly chilly wind, vivid sunshine. At lunch, a press man got here to me and stated: ‘Mrs Griffiths, I’m from the press.’ ‘I’ve nothing to say,’ I stated. ‘Oh!’ stated he, ‘we all know your story of the Girls of Wales motion, we wish solely your images – will you come to the highest deck when you have got completed?’ So [we] trotted as much as the highest deck top notch, the place we discovered 4 burly photographers awaiting us.
Mawrth 12 1924, Los Angeles: A letter was handed to me as I left the station – an nameless letter, telling us to get out of america.
Gan mlynedd yn ôl, teithiodd Annie Hughes Griffiths o Gymru i’r Unol Daleithiau gan ymweld â golygfeydd ysblennydd o Efrog Newydd i Washington DC, ac o San Francisco i Los Angeles. Ond er bod dyddiadur ei thaith yn disgrifio rhai atyniadau y byddai rhywun yn disgwyl i’r teithiwr talog ymweld â nhw – Rhaeadrau Niagara, y Grand Canyon, Pont y Glwyd Aur (neu’r Golden Gate Bridge) a Chofeb Lincoln – nid gwyliau cyffredin oedd y siwrnai hon, ac nid teithwraig gyfffredin oedd Annie Hughes Griffiths.
Roedd hello’n rhan o ddirprwyaeth o bedair Cymraes oedd â’r nod o gludo’r hyn a ddisgrifiodd y South Wales Gazette fel “bwystfil o ddeiseb” (“monster petition”) un a fyddai’n ymestyn dros saith milltir pe bai’r llofnodion wedi eu gosod ochr yn ochr. Apêl oddi wrth fenywod Cymru at fenywod America am heddwch byd-eang oedd y ddeiseb hon.
Roedd y siwrnai i’r UDA yn uchafbwynt ymgyrch chwe mis o hyd a oedd wedi gweld mwy na 400 o drefnwyr lleol yn mynd o ddrws i ddrws yn casglu llofnodion mewn trefi a phentrefi ledled Cymru. Rhyngddynt casglwyd 390,296 llofnod – camp a fyddai’n drawiadol hyd yn oed heddiw, mewn oes lle mae’r rhyngrwyd a’r cyfryngau cymdeithasol yn gallu ein cysylltu ni ar amrantiad â phobl o bob cwr o’r byd. Ond digwyddodd hyn gan mlynedd yn ôl, mewn oes lle’r oedd automobile a llinell ffôn eto’n destun rhyfeddod.
Learn extra:
A century in the past, the ladies of Wales made an audacious attraction for world peace – that is their story
Cyflwynodd Hughes Griffiths a’i chyd-genhadon heddwch (â phawb wedi talu drostyn nhw eu hunain am y daith dros y dŵr) eu deiseb i brif sefydliadau menywod America, ac yn ddiweddarach i arlywydd yr Unol Daleithiau, Calvin Coolidge, yn y Tŷ Gwyn. Ond er bod llawer yn croesawu’r menywod arloesol hyn o ochr draw Môr yr Iwerydd, roedd eraill – gan gynnwys y llythyrwr dienw y mae Hughes Griffiths yn ei ddisgrifio yn ei dyddiadur – yn gwrthwynebu’n chwyrn y syniad bod yr Unol Daleithiau yn cymryd rhan mewn mentrau rhyngwladol, hyd yn oed os oedd y fenter honno’n ceisio atal rhyfel.
Er gwaethaf y sylw a ddenodd y ddeiseb yn ei dydd ar naill ochr i’r cefnfor – a chreu rhwydweithiau sefydliadol a phersonol hirhoedlog rhwng ymgyrchwyr heddwch Cymru ac America – pylodd hanes yr ymdrech anghyffredin hon o’n cof-ar-cyd. Hyd yn oed yng Nghymru, nid yw’n ymddangos yn y llyfrau hanes, ac nid yw chwaith yn cael ei ddysgu yn yr ysgolion.
Rydyn ni’n olygyddion llyfr newydd Yr Apêl-The Enchantment, sef cyfrol sy’n adrodd yr hanes coll hwn diolch i ymchwil fanwl gan awduron y penodau a’u gwaith yn cribo drwy adroddiadau mewn papurau newydd a chofnodion cyhoeddus yr 1920au, a darllen drwy ddyddiaduron a llythyron y menywod hynny (a rhai dynion) a ddaeth â maen y ddeiseb i’r wal.
Roedd digon i wahanu’r miloedd o fenywod o Gymru a lofnododd y ddeiseb: iaith, crefydd, cysylltiadau gwleidyddol, ac amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd. Ond roedd y gwahaniaethau hyn yn ddibwys o’u cymharu â’r hyn a oedd yn eu huno: breuddwyd am fyd di-ryfel.
Cynllunio’r ddeiseb
Nid oedd y cysylltiad rhwng menywod ac achos heddwch yn beth newydd. Y ddolen hon oedd conglfaen mudiad rhyngwladol heddwch y menywod yn y cyfnod cyn y rhyfel byd cyntaf. Mudiad oedd hwn a gysylltai heddwch â’r ymgais i ymestyn hawliau sifil i fenywod – yn enwedig, ond nid yn unig, yr hawl i bleidleisio. Y rhesymeg y tu ôl i hyn oedd: pe byddai menywod yn gallu chwarae mwy o ran yn y sffêr cyhoeddus ac yn y broses o wneud penderfyniadau gwleidyddol, efallai y byddai dulliau heddychlon o ddatrys anghydfod yn cael mwy o ystyriaeth.
Lladdwyd tua 40,000 o filwyr o Gymru yn y rhyfel byd cyntaf, a dychwelodd nifer o’r 230,000 o’u cyd-wladwyr o faes y gad gyda siel-sioc (PTSD, neu anhwylder straen wedi sioc) ac anafiadau a fyddai’n newid eu bywydau. Yn wyneb effeithiau trychinebus y rhyfel ar deuluoedd a chymunedau Cymru, lledodd penderfyniad di-droi’n-ôl na ddylai’r fath gyflafan gael ei ganiatáu fyth eto.
I rai, yr ateb oedd ymroi i heddychiaeth. Chwiliodd eraill am atebion mewn pleidiau gwleidyddol: profodd y blaid Lafur yng Nghymru gefnogaeth a ddyblodd fwy neu lai y nifer o ASau a anfonwyd i’r Senedd yn Llundain rhwng 1918 ac 1922, gan gynnwys sawl un a oedd yn ymgyrchwyr yn erbyn rhyfel.
Ar yr un pryd, roedd pobl yn cydnabod yr angen dirfawr am ryw fath o ddull sefydliadol a allai ddatrys anghydfod rhyngwladol. Roedd angen sefydliad a allai dynnu cenhedloedd ynghyd er mwyn setlo eu dadleuon o gylch bwrdd negodi yn hytrach nag yn y ffosydd a’r meysydd cad. Roedd sefydliad newydd, Cynghrair y Cenhedloedd, yn cynnig gobaith o’r fath – gobaith o allu rhoi dodrefn heddwch yn eu lle.
Wedi ei chreu gan Gytundeb Versailles a ddaeth â diwedd swyddogol i’r rhyfel byd cyntaf, y weledigaeth y tu ôl i Gynghrair y Cenhedloedd (1920-1946) oedd cynnig ffordd ymarferol o atal rhyfel yn y dyfodol. Derbyniodd groeso brwd yng Nghymru, gan gynnwys gan David, Gwendoline a Margaret Davies, brawd a dwy chwaer â phrofiad personol o erchyllterau rhyfel – David fel swyddog, Gwendoline a Margaret fel nyrsys gwirfoddol mewn ysbyty maes yn Ffrainc.
Credai’r tri ym mhotensial y gynghrair i drawsnewid gwleidyddiaeth fyd-eang. A, diolch i’r cyfoeth enfawr yr oedden nhw wedi ei etifeddu gan eu tad-cu, y diwydiannwr, David Davies, Llandinam, roedden nhw mewn sefyllfa i gynnig cymorth ymarferol i gefnogi’r ymdrechion i wireddu’r potensial hwnnw. Yn 1919, noddon nhw gadair gynta’r byd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. Dair blynedd wedi hynny, gyda rhodd gan David Davies (y mab) sicrhawyd dyfodol hir-dymor i gangen Cymru o Undeb Cynghrair y Cenhedloedd – o ran ei ymroddiad i heddwch, hwn oedd y corff mwyaf dylanwadol ymhlith cymdeithasau dinesig Prydain yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd
Ond tra bo’r gwaith hwn yn codi ymwybyddiaeth a chefnogaeth i amcanion y gynghrair yng Nghymru, roedd ar yr uchelgais fyd-eang angen ymroddiad gweithredol gan holl genhedloedd y byd – fel arall ni fyddai fyth yn datblygu y tu hwnt i rethreg a breuddwyd am weld dyfodol mwy heddychlon. Ac o’r cychwyn, roedd llywodraethau rhai cenhedloedd yn gyndyn o ymuno – gan gynnwys y genedl fwyaf pwerus ohonyn nhw i gyd, yr Unol Daleithiau.
Casglu’r llofnodion
In some situations, three and 4 visits had been made to the identical homes earlier than all of the signatures had been secured. With only a few exceptions, the girl canvassers had been very effectively acquired. (Adroddiad papur newydd lleol, Maesteg – Rhagfyr 1923)
Roedd Gwilym Davies, a oedd wedi ymddeol o fod yn weinidog gyda’r Bedyddwyr ac a oedd yn gyfarwyddwr anrhydeddus Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd, yn ŵr o weledigaeth – dyn a oedd nid yn unig wedi ymrwymo i achos heddwch, ond a oedd â daybreak creu dulliau newydd a dengar o ddod â mater heddwch i sylw’r cyhoedd ehangach.
Yn 1922, awgrymodd y dylai pobl ifanc Cymru gyfansoddi neges “heddwch ac ewyllys da” a defnyddio technoleg newydd y radio i’w darlledu i’w cyfoedion ledled y byd. Cydiwyd yn ei awgrym a dyma ddechrau ar draddodiad sy’n parhau hyd heddiw, bellach o dan arweiniad Urdd Gobaith Cymru.
Y flwyddyn ganlynol, Mawrth 7 1923, ysgrifennodd Davies at Mary Ellis, cyd-ymgyrchydd dros heddwch a’r ail wraig erioed i gael ei phenodi’n arolygydd ysgolion gan Adran Addysg Cymru. Yn llythyr Davies roedd awgrym a ymddangosai’n dwyllodrus o syml:
Wouldn’t it be attainable for the Girls of Wales to strategy the Girls of America, and inform them frankly of their concern for the way forward for civilisation?
Erbyn Mai 1923, roedd cynnig Davies wedi ei fabwysiadu’n ffurfiol gan Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd, a lluniwyd pwyllgor gwaith ar unwaith. Ni allai’r amcan fod wedi bod yn un mwy uchelgeisiol: creu heddwch byd eang; eto i gyd, roedd eu cynllun yn un ymarferol: bydden nhw’n galw ar fenywod yr UD i berswadio eu harweinwyr i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd.
Mae’r erthygl hon yn rhan o Dialog Insights
Mae tîm Insights yn cynhyrchu newyddiaduraeth ffurf hir sy’n deillio o ymchwil rhyngddisgyblaethol. Mae’r tîm yn gweithio gydag academyddion o wahanol gefndiroedd sydd wedi bod yn gweithio ar brosiectau sy’n ceisio ymafael â heriau cymdeithasol a gwyddonol.
Bydden nhw’n cyrchu pob menyw yng Nghymru dros 18 oed, bydden nhw’n esbonio’r amcanion ac yna’n cynnig cyfle iddyn nhw gefnogi’r ddeiseb drwy dorri eu henwau arni. Bydden nhw’n ennill cefnogaeth cymaint o gefnogwyr a hyrwyddwyr â phosib er mwyn gallu cyflawni’r gorchwyl enfawr hwn – a chyrraedd y llawer ardal wledig a phellennig yn ogystal â’r trefi a’r pentrefi ledled Cymru.
Rhaid cofio mai dim ond dwy drefnyddes gyflogedig, sef Mary Ellen Pritchard ac Ethel Elizabeth Poole, a oruchwyliodd y prosiect cyfan, y naill yng ngogledd Cymru a’r llall yn y de. Gweddw cyn-faer Pwllheli oedd Pritchard, a ystyriai’r gwaith fel “galwad gan Dduw”. Roedd gan Poole, a oedd yn ferch i filwr, ysgogiad mwy personol i weithio dros heddwch rhyngwladol: lladdwyd ei brawd yn Ffrainc yn 1916 ac yntau’n ddim ond 26 mlwydd oed.
Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus i ledaenu’r gair am yr ymgyrch cyn dechrau ar y canfasio o ddrws i ddrws. Siaradodd Pritchard a Poole mewn llawer o’r cyfarfodydd hyn, a hefyd Gwilym Davies ac Ellis. Yr argraff a geir mewn adroddiadau cyhoeddus a phersonol oedd bod llawer o frwdfrydedd yn y cyfarfodydd hyn, eto i gyd mae’r adroddiad papur newydd hwn o gyfarfod yn Nhreffynnon yn awgrymu bod peth drwgdeimlad yn dal i fod tuag at y syniad o fenywod yn ymgyrchu, a hynny’n dilyn y frwydr dros hawl menywod i bleidleisio:
Mr H.T. Roberts stated that at one time he had been a lot against girls’s suffrage, however now he noticed how unsuitable he had been. Right here was a query by which the ladies of Wales had extra proper to say something than anybody else.
Argraffwyd y miloedd o daflenni papur a ddefnyddiwyd gan y trefnyddion i gasglu’r llofnodion unigol gyda geiriau’r apêl yn Saesneg neu’n Gymraeg, fel bod menywod yn gallu ei darllen drostyn nhw eu hunain cyn penderfynu a oedden nhw am ychwanegu eu llofnodion arni – ac yn achos y menywod anllythrennog, darllenwyd y datganiad iddynt. Roedd y geiriau’n cynnwys yr alwad hon:
Nid amcanion gwleidyddol sydd wrth wraidd ein hymdrech. Siarad yr ydym fel Merched Cymru – plant i genedl na fynn gadw dig tuag at na gwlad na phobl, eithr sydd â’i dyhead am ddyfod dydd cydweithrediad ac ewyllys da. Hiraethwn am y bore pan na throir at y cleddyf am ddedfryd yn helyntion y cenhedloedd; a theimlwn y prysurir gwawr yr Heddwch a bery pe bai’n bosibl i’r America gymeryd ei lle yng Nghyngor Cynhrair y Cenhedloedd.
Byddai’n rhaid i drefnyddion y ddeiseb gerdded am filltiroedd, weithiau drwy’r gwynt a’r glaw, i sicrhau na fyddai unrhyw dŷ yn eu hardal yn cael ei esgeuluso. Roedd y tywydd ym mis Tachwedd 1923, adeg casglu llawer o’r llofnodion, yn arbennig o stormus yn ôl pob sôn, ac mae ôl glaw ar rai o’r taflenni, a hefyd staeniau inc ac olion bysedd. Fel y byddai Annie Hughes Griffiths yn esbonio’n nes ymlaen wrth ei chynulleidfa yn America:
There are types smudged with ink as a result of they had been taken from home to accommodate within the rain. There are types which aren’t so clear as we must always like them to be, however they had been dealt with from door to door, and there are signature types which the canvassers took out to lonely locations, the place the signatures had been obtained after a stroll of a dozen miles.
Mae un stori ddirdynnol am ddwy gymdoges, y ddwy yn byw mewn cryn dlodi, yn rhoi eu harian prin at ei gilydd i brynu ysgrifbin a photyn inc ar y cyd fel eu bod yn barod pan ddôi’r ddeiseb at eu drws.
Roedd llawer o’r menywod a’i llofnododd wedi colli anwyliaid yn y rhyfel byd cyntaf. Lladdwyd mab Julia Ann Heywood, Sir Fôn, ar y Ffrynt Gorllewinol yn 1916. Roedd brawd Jennett Bragg, Porthcawl, ymhlith y 570 a foddwyd pan suddwyd y llong ryfel Brydeinig HMS Goliath yn y Dardanelles yn 1915. Lladdwyd dau fab Lucy Dickenson, Aberyskir Courtroom, Aberhonddu, o fewn ychydig wythnosau i’w gilydd yn 1918.
Erbyn diwedd Ionawr 1924 roedd y cyfnod canfasio am gefnogaeth wedi dod i ben ac roedd 390,290 o lofnodion wedi eu casglu. Rhoddwyd y miloedd o daflenni â’r llofnodion arnynt yn ofalus mewn cist dderw a luniwyd at y swydd. Rhoddwyd dau gopi o destun yr apêl mewn caligraffeg oreuraid, achieve rhwng cloriau o ledr Moroco. Byddai un copi’n mynd i’r Unol Daleithiau ynghyd â thaflenni’r ddeiseb. Byddai’r copi arall yn aros yng Nghymru.
Cludo’r ddeiseb i America
Roedd y cynllunio a’r paratoi ar gyfer y daith i’r UD wedi cychwyn hyd yn oed cyn i’r apêl gael ei mabwysiadu a hynny o dan arweiniad Mary Ellis, a dreuliodd fisoedd yn cyfnewid llythyron ag arweinwyr mudiad heddwch menywod America. Yn Rhagfyr 1923, aeth i Efrog Newydd i fraenaru’r tir ar gyfer aelodau eraill y ddirprwyaeth o Gymru a fyddai’n ei dilyn hello ym mis Chwefror.
Yn Efrog Newydd, cyfarfu Ellis â rhai o fenywod enwocaf ymgyrchoedd y menywod o blaid newid cymdeithasol ac economaidd: Harriet Burton Laidlaw, Ruth Morgan, Carrie Chapman Catt ac Eleanor Roosevelt. Roedd pob un ohonyn nhw wedi hogi ei sgiliau eiriolaeth yn ystod y frwydr hir am etholfraint y menwyod, a enillwyd (yn rhannol) yn 1920 pan gafwyd cadarnhad o’r 19eg Diwygiad i Gyfansoddiad yr UD. Erbyn 1924, roedden nhw’n sianelu eu hymdrechion o blaid heddwch rhyngwladol.
Diolch i’r ohebiaeth rhwng Ellis a Gwilym Davies, mae eu hargraffiadau hello o’r cymeriadau blaenllaw hyn yn hanes America ar gof a chadw. Wedi cyfarfod â Catt, dywedodd:
It will have performed you good to see the fantastic mild on Mrs Catt’s face as I advised her merely what our little message meant … She was completely thrilled with the story of our memorial.
Ond Laidlaw, trefnyddes heb ei hail ac un â chysylltiadau pellgyrhaeddol o fewn mudiad menywod America, a brofodd i fod y ddolen fwyaf gwerthfawr i Ellis. Sicrhaodd fod dwsinau o gymdeithasau a sefydliadau menywod yn rhoi eu cefnogaeth i apêl y menywod o Gymru. Laidlaw hefyd oedd yr un a drefnodd i’r ddirprwyaeth o Gymru gael derbyniad gan arlywydd yr UD yn y Tŷ Gwyn – byddai Ellis yn disgrifio Laidlaw maes o regulation fel “dewines deg” y ddeiseb (neu “fairy godmother” o ddefnyddio’r union eiriau).
Ar Chwefror 2, aeth gweddill y ddirprwyaeth o Gymru ar y trên yng ngorsaf Euston, Llundain, gan anelu at Lerpwl, gyda thyrfa wedi ymgasglu ar y platfform i ddymuno’n dda iddynt, a llond eu côl o delegramau yn cynnwys un gan y cyn brif weinidog, David Lloyd George.
Yr un a ddewiswyd i arwain y ddirprwyaeth oedd Annie Hughes Griffiths (a adwaenid yn ôl yr arfer bryd hynny fel Mrs Peter Hughes Griffiths); roedd hello’n gymeriad carismataidd, gyda daybreak siarad cyhoeddus ac yn gallu cyfathrebu’n rhwydd yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn gadeirydd Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd a llywydd pwyllgor menywod yr undeb, roedd Hughes Griffiths eisoes yn adnabyddus yng Nghymru fel un a gefnogai sawl agwedd ar fywyd diwylliannol Cymru, gan gynnwys ei gwaith yn cofnodi alawon gwerin. Roedd hefyd ganddi gysylltiadau da yng nghylchoedd gwleidyddol Cymru, diolch yn rhannol i’w gŵr cyntaf, Thomas Edward Ellis, a fu’n aelod seneddol dros y blaid Ryddfrydol.
Aelod ieuengaf y ddirprwyaeth oedd Elined Prys a oedd wedi derbyn addysg prifysgol ac a oedd wedi gwneud gwaith helaeth gyda ffoaduriaid yn Rwmania ar ran Cymdeithas Gristnogol y Menywod Ifanc (YWCA) yn y cyfnod wedi’r rhyfel. Cydymaith arall oedd Gladys Melhuish Thomas o Lundain – ac er nad oedd hello’n rhan swyddogol o’r ddirprwyaeth, ymunodd â’r daith yn gwmni i’w chyfeilles, Hughes Griffiths.
Yn union cyn gadael am yr UD, rhoddodd Hughes Griffiths gyfweliad i bapur dyddiol y Western Mail gan ddisgrifio apêl menywod Cymru fel un ac iddi “nice ethical power when it’s remembered that it’s the results of a nation’s voluntary effort”. Roedd y ddeiseb, meddai, yn agor pennod newydd yn hanes hir y Cymry o weithio dros heddwch
Pa fath o groeso a gafodd y menywod
Once we reached land, a number of leaders of American girls’s organisations met us carrying bunches of daffodils, whose patches of vivid yellow first caught our eyes among the many throng on the touchdown stage. Our hostesses’ amazement was nice once they noticed Mrs Peter Hughes Griffiths additionally holding a bunch of daffodils, which had efficiently traversed the Atlantic within the chilly storage chamber!
Ar ôl wythnos o groesi’r Iwerydd, wele’r RMS Cedric – a fu unwaith y llong fwyaf o blith llongau mawrion y byd – yn bwrw angor yn Efrog Newydd. Roedd Ellis wedi ysgrifennu i rybuddio Hughes Griffiths a Prys y byddent yn ganolbwynt sylw wrth iddynt gyrraedd, ac y dylent ymbaratoi at gael tynnu eu llun gan ffotograffwyr y wasg Americanaidd, ei chyngor oedd: “so put in your prettiest and smile while you land!”. Yn y darnau a ddyfynnir uchod ac isod, mae Prys yn disgrifio’r olygfa ar y cei a’r croeso a oedd yn disgwyl amdanynt, mewn gohebiaeth a gyhoeddwyd mewn adroddiad yn y Western Mail:
The automobile which met us was ornamented with daffodils. From the second we entered it, we had been whirled away into such a succession of visits and receptions as solely American hospitality is aware of the way to bathe on its friends.
Treuliodd dirpwyaeth menywod Cymru wythnos yn Efrog Newydd gan rwydweithio ag ymgyrchwyr heddwch o blith menywod America a mynd i wahanol ddigwyddiadau cymdeithasol. Rhoddodd Hughes Griffiths nifer o gyfweliadau i’r wasg ac anerchiadau – yn fwyaf nodedig Chwefror 19 1924, pan ymgasglodd mwy na 400 o fenywod yn cynrychioli mwy na 60 o fudiadau menywod America a chanddynt aelodaeth o fwy nag 16 miliwn yn ystafell ddawns fawreddog y Biltmore Resort yng nghanol ardal Manhattan, i dystio gweld agor y gist bren a rhannu taflenni’r ddeiseb am y tro cyntaf. Yn yr araith hon, talodd hello deyrnged i’r menywod cyffredin o Gymru a oedd wedi torri eu henwau ar y ddeiseb a chefnogi’r ymgais unigryw hon i greu byd o heddwch:
There are signatures of ladies of 90 years of age and over – [including] certainly one of a lady of 101 – who had been very anxious that the memorial shouldn’t be despatched to America with out their names. Our younger college girls of 18 years previous have signed, however there’s additionally many a cross signifying the mark of approval of these girls who of their youth had been denied the blessing of schooling. And there are the signatures of the moms who, in signing, remembered their boys who fell within the battle and now sleep quietly within the blood-drenched fields of France – with every signature, many a tear.
Aeth llwyddiant y digwyddiad yn y Biltmore Resort ymhell y tu hwnt i bob gobaith a disgwyl – yng ngeiriau dyddiadur Hughes Griffiths: “It was a really thrilling gathering and one which, in our wildest flights of creativeness, we’ve by no means considered on such a complete scale.” Drannoeth, ysgrifennodd Ellis lythyr at Gwilym Davies yn sôn am yr hanes:
Mrs G [Hughes Griffiths] made an awesome speech in each sense of the phrase … When she learn the memorial, Miss Prys and I stood up. I felt completely pent up with emotion … The reception by the American girls was unbelievable – they listened to each phrase and their faces had been a research to see. Essentially the most fantastic factor is absolutely the understanding of our personal message and mission.
O Efrog Newydd aeth y ddirprwyaeth i Washington DC lle tynnwyd eu llun ar risiau’r Tŷ Gwyn a chyfarfod â’r Arlywydd Coolidge. Cafodd Hughes Griffiths addewid gan yr arlywydd y byddai’r ddeiseb a’i chist dderw arbennig yn cael eu trosglwyddo i’w cadw’n ddiogel yn sefydliad y Smithsonian, safle amgueddfa, addysg ac ymchwil genedlaethol America. Byddai’n aros yma am ganrif namyn blwyddyn heb yn wybod i genedlaethau newydd o Gymry, yn fenywod a dynion, draw dros Fôr yr Iwerydd.
Wedi cwblhau eu nod o drosglwyddo’r apêl i fenywod America, gwahanodd aelodau dirprwyaeth heddwch 1924 ac aeth pawb ei ffordd ei hun: aeth Ellis i ymweld â rhai o golegau America, aeth Prys i gysylltu yn ôl â ffrindiau o’i chyfnod yn gweithio i’r YWCA a’r Groes Goch yn Rwmania. Aeth Hughes Griffiths, yng ngwmni ei chyfeilles, Gladys Thomas, ar daith heddwch ddeufis o hyd drwy’r UD ar drên bob cam i California ac yn ôl – gan gyfarfod â grwpiau menwyod, ymgyrchwyr heddwch a chynrychiolwyr cymdeithasau Cymraeg, a rhoi mwy eto o anerchiadau a chyfweliadau i’r wasg am hanes apêl heddwch menywod Cymru.
Tua diwedd y siwrnai hon drwy America, rhoddwyd llythyr dienw i Hughes Griffiths yn dweud wrthi am “adael y wlad”. Er nad yw hello’n gwneud môr a mynydd o hyn yng nghofnod y diwrnod hwnnw yn ei dyddiadur, mae’r digwyddiad yn datgelu tipyn am gryfder y syniad o blaid America ymynysol yn y cyfnod hwn. Tra bo llawer yn America yn cefnogi’n frwd y syniad o ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd ac yn awyddus i weld yr UDA yn chwarae rhan flaenllaw yn ymdrechion y dyfodol i atal rhyfel byd-eang, roedd eraill yn beio Ewrop am lusgo eu gwlad i ryfel. Roedd y rhain yn ofni y byddai aelodaeth yr UD yn y gynghrair yn gwneud dim byd mwy nag arwain y wlad i ymryson rhyngwladol a fyddai’n gynyddol gostus a marwol.
Glaniodd y ddirprwyaeth o Gymru yng nghanol y tyndra hwn, ac roedd gan yr Americanesau a oedd wedi cynorthwyo Ellis i drefnu’r daith lawer o waith llywio’n ofalus drwy ddyfroedd cymhleth a gwleidyddol. Gwelodd Harriet Laidlaw, er enghraifft, werth cyhoeddusrwydd y syniad hwn o apêl heddwch a ddôi’n uniongyrchol o fenyw i fenyw, a bu’n ofalus iawn wrth ddisgrifio’r cyfarfod yn y Biltmore Resort fel galwad gyffredinol am heddwch rhyngwladol drwy chwaeroliaeth, gan osgoi rhoi unrhyw bwyslais ar gysylltiad yr apêl â Chynghrair y Cenhedloedd.
Saernïodd taith menywod Cymru i America gysylltiadau hirhoedlog rhwng mudiadau heddwch menywod Cymru ac America, gan ysbrydoli creu mudiad heddwch newydd yn yr UD, sef y Nationwide Committee for the Trigger and Treatment of Conflict. Hwn, yn ei dro, oedd mudiad heddwch mwyaf dylanwadol America’r 1920au. Dywedodd Carrie Chapman Catt, un o’i sefydlwyr, fod y datblygiad yn fodd o dalu’r gymwynas yn ôl, “a approach of returning the praise” i fenywod Cymru am eu hymdrechion tuag at heddwch rhyngwladol.
Ond tra bo llawer o fenwyod ar ddwy ochr Môr yr Iwerydd yn parhau i gredu ym mhotensial Cynghrair y Cenhedloedd i greu heddwch, roedd y cyd-destun gwleidyddol yn yr UD yn anffafriol. Roedd achosion blaengar, gan gynnwys ymdrechion rhyngwladol i hyrwyddo heddwch, yn cael eu gweld fwyfwy fel gwaith tanseiliwyr a chwyldroadwyr, ac fe’u hystyriwyd yn ddrwgdybus gan gyrff oddi mewn i lywodraeth yr UD fel yr Adran Ryfel a’r Bureau of Investigation (sef yr FBI ymhen amser).
Nid ymaelododd yr UD â’r gynghrair, ac erbyn yr 1930au hwyr golygai’r bygythiad i heddwch o du’r Almaen Natsiaidd a phwerau eraill mai prin iawn oedd y rhai a oedd yn cydymdeimlo â’r ddadl y gallai ac y byddai cenhedloedd y byd yn gweithio gyda’i gilydd i atal gwrthdaro. Er bod llawer o’r syniadau a fu’n graidd i’r gynghrair wedi cael eu hatgyfodi yn y Cenhedloedd Unedig a chyrff a sefydliadau cysylltiedig wedi 1945, erbyn hynny roedd apêl menywod Cymru wedi mynd yn angof gan bawb ac eithrio’r rhai a fu’n ganolog i’r ymgyrch.
Ailddarganfod y ddeiseb
Un diwrnod o haf yn 2014, wrth chwilio drwy gasgliadau Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (CMRhC, sef cyn bencadlys Undeb Cymreig Cynghrair y Cenhedloedd) am enghreifftiau o weithio dros heddwch yng Nghymru, daethpwyd o hyd i rywbeth a oedd y tu hwnt i ddychymyg neb.
Yn llyfrgell hardd y Deml Heddwch ac Iechyd yng Nghaerdydd, tynnodd Martin Pollard, a oedd yn brif weithredwr CMRhC ar y pryd, feingefn tennau brown a lechai rhwng adroddiadau am ystadegau’r fasnach arfau yn y 1930au. O wneuthuriad lledr Moroco ac, yn ôl pob sôn, heb gael ei gofnodi fel rhan o gasgliad y llyfrgell, nodai’r geiriau a oedd wedi eu goreuro mewn aur ar y clawr blaen mai dyma ydoedd: “Yr Apêl oddiwrth ferched Cymru a Mynwy at Ferched Unol Daleithiau yr America … The memorial from Wales signed by 390,296 girls in Wales and Monmouthshire, to the ladies of america of America.”
Y tu mewn i’r rhwymiad lledr roedd testun yr apêl, wedi ei ysgrifennu mewn caligraffeg berffaith lân yn mynegi pryder, gobaith a breuddwyd cenhedlaeth gyfan o fenywod o Gymru a oedd yn un yn eu galwad am heddwch. Yn ddiweddarach, fel hyn y cofiwyd yr eiliad gan Susie Ventris-Area, a olynodd Martin Pollard fel prif weithredwr CMRhC:
It was a wide ranging second – spellbinding, perplexing. A Welsh peacebuilding motion of a scale past any in dwelling reminiscence. How might such a narrative be hidden to historical past? How was such a report ‘misplaced’ proper right here in plain sight? What of the signatures – did they nonetheless exist? In that case, the place? So many questions … how might we uncover the story behind it?
Dod o hyd i destun yr apêl oedd y cam cyntaf ar daith yr ailddarganfod, taith sy’n parhau hyd heddiw. Mae sgwd o ddarganfyddiadau allweddol wedi cadw’r ymchwil i fynd rhagddi, gan gynnwys sylweddoli mai hen lun yn dangos pedair menyw ar risiau allanol adeilad, ag un ohonyn nhw’n dal yr hyn sy’n ymddangos fel llyfr mawr agored, oedd mewn gwirionedd llun y ddirprwyaeth o Gymru i Washington DC – a’r llyfr oedd copi cyfarch yr apêl yn ei rwymiad o ledr Moroco.
Wedi blynyddoedd o gydweithio o dan adain Academi Heddwch Cymru rhwng mudiadau llawr gwlad fel Heddwch Nain Mam-gu (Our Grandmothers’ Peace) a sefydliadau cenedlaethol fel Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r ddeiseb bellach yn ôl yng Nghymru. Mae’r taflenni wrthi’n cael eu catalogio, eu sganio a’u huwchlwytho gan workers y Llyfrgell Genedlaethol gyda chymorth gan wirfoddolwyr, ac rydyn ni eisoes yn cael cip ar rai o’r darganfyddiadau cyffrous sy’n disgwyl amdanon ni pan fydd yr holl lofnodion wedi eu digido ac ar gael ar-lein.
Eisoes mae dycnwch gwaith trylwyr y trefnwyr a natur benderfynol eu hymgais i gyrraedd cymaint o fenywod â phosib yn amlwg iawn. Roedd trefnwyr Caerffili, er enghraifft, wedi llwyddo i gael llofnodion hyd yn oed y menywod yn yr ysbyty neilltuo lleol.
Pan fydd y llofnodion wedi eu trawsgrifio, bydd hello’n llawer haws i groes-gyfeirio enwau unigol gyda’r cyfrifiad Cymraeg a chofnodion cyhoeddus eraill, gan agor sawl trywydd ymchwil newydd i fywydau’r 390,296 o fenwyod a gredai, yng ngeiriau’r apêl, fod y “dyfodol yn llawn gobaith os y gwnawn ni, ferched y genhedlaeth hon, ein rhan.”
Ysbrydoli heddiw, ganrif yn ddiweddarach
Ganrif yn ddiweddarach, rydyn ni’n dechrau gweld darlun eglurach o’r menywod a fu’n chwarae rhan greiddiol yn y stori hon – yn arbennig y modd yr oedden nhw’n gweld dolen dynn rhwng rhoi diwedd ar y dioddef sy’n dod yn sgil rhyfel a ffurfiau eraill ar ddioddefaint, fel marchnata mewn pobl, wrth i gymaint ohonyn nhw barhau i ymwneud â’r ymgais i weld sefydliadau rhyngwladol a dulliau gweithredu rhyngwladol yn dod i fod, pethau a allai feithrin yr amgylchiadau addas i greu heddwch.
Ond efallai mai un o lwyddiannau mawr deiseb heddwch menywod Cymru oedd ei bod wedi llwyddo i fynd heibio i ffurfioldeb llywodraeth a’i swyddogion a siarad yn uniongyrchol fel ‘ymgais wirfoddol cenedl’ (“nation’s voluntary effort” a defnyddio geiriau gwreiddiol Hughes Griffiths). Roedd hon yn ymgais i greu byd mwy heddychlon yn seiliedig ar fenywod un genedl yn ymestyn at fenywod cenedl arall. Yn y weithred uniongyrchol hon, gwelwyd ymgyrch heddwch gyntaf o’i bathtub.
Bydd rhai, efallai, yn cwestiynu gwerth apêl menywod Cymru, gan na wireddwyd y nod o berswadio’r UD i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd. Byddai hynny, fodd bynnag, yn ein barn ni yn ymateb cibddall. Yn hytrach, oni ddylai ein hysbrydoli ni i ystyried o’r newydd beth allwn ni ei wneud i gefnogi mentrau heddwch heddiw?
Os, wrth bacio’r ddeiseb mewn cist, y llwyddwyd yn anfwriadol i guddio’r testomony rhyfeddol hwn o waith tangnefeddwyr, ni lwyddwyd i ddiffodd yng Nghymru’r fflam a fentrai oleuo’r gobaith o weld byd di-ryfel. O bererindodau heddwch yr 1920au hwyr i’r orymdaith i Gomin Greenham yn 1981, i fentrau yn yr 21ain ganrif fel sefydlu Academi Heddwch Cymru a Heddwch ar Waith, mae’r ymgyrch yn parhau. Mae dweud y stori hon o’r newydd yn rhan o’r gwaith hwnnw.
Ganrif yn ôl galwodd yr apêl ar i fenywod y genhedlaeth hon gynorthwyo yn yr ymdrech “i drosglwyddo i’r oesau a ddêl fyd di-ryfel yn dreftadaeth dragywydd”.
Ein cyfrifoldeb ninnau yw hynny nawr.
Bydd Jennifer Mathers a Mererid Hopwood yn trafod eu llyfr newydd, Yr Apêl-The Enchantment, a sut y gall deiseb heddwch menywod Cymru ysbrydoli ymgyrchwyr heddwch heddiw yng Ngŵyl y Gelli, dydd Iau, Mai 30, 2024